Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Mehefin 2023
Amser y
cyfarfod: 12.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13382
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 12.45.
Yn unol â Rheol Sefydlog 13.3, gwnaeth y Llywydd, ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, wahodd deg Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan yn nhrafodion y Senedd ar gyfer yr eitem ar y cyd hwn. Roedd 31 o Aelodau eraill y Senedd Ieuenctid hefyd yn bresennol yn y Siambr ar gyfer yr eitem hon.
Galwyd ar yr Aelodau o’r Senedd Ieuenctid i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am waith Senedd Ieuenctid Cymru, ac yna galwyd ar y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau a Chadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i ymateb. Galwyd ar 5 Aelod o’r Senedd Ieuenctid i ofyn cwestiynau, a atebwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Am 13.25, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, ataliwyd y cyfarfod dros dro i ganiatáu egwyl cyn yr eitem nesaf.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Dechreuodd yr eitem am 13.35
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 6 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.
Pwynt o Drefn
Am 15.11, cododd Alun Davies Bwynt o Drefn mewn perthynas â chwestiwn atodol James Evans i Gwestiwn 5 i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, lle roedd yr Aelod wedi honni bod y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi camarwain y Senedd. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n adolygu’r Cofnod ac yn ystyried y cyfraniad a wnaed.
Am 18.18, ar ôl adolygu’r Cofnod, dyfarnodd y Dirprwy Lywydd bod defnyddio termau fel ‘camarwain’ a ‘chamarweiniol’ heb eu hamodi yn gallu cael ei ystyried fel honni bwriad, a bod y cyfraniad blaenorol gan James Evans AS wedi hepgor cyfeiriadau at achosion o eglurhad a wnaed yn flaenorol.
4 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gofynnwyd y 9 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 4 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
5 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o 61 o fanwerthwyr diodydd sy'n gweithredu yng Nghymru yn ysgrifennu llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn galw am eithrio gwydr o'i gynllun dychwelyd ernes yn unol â gweddill y DU?
Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Yn sgil datgeliadau diweddar, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch faint o aelodau o genhedlaeth Windrush o Gymru ag afiechyd cronig a meddyliol a gafodd eu halltudio?
Atebwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gydag ysgolion i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch dŵr yn dilyn y boddi trasig ger pier Aberafan nos Lun?
6 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gwnaeth Tom Giffard ddatganiad am - Cymru yn curo yr Alban 10-2 i ennill Cwpan Dartiau’r Byd.
Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am - Wythnos Bwyd a Ffermio Cymru (19-23 Mehefin).
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Nodi canmlwyddiant Senotaff Aberdâr (8 Mawrth) gyda dathliad, gan gynnwys gorymdaith (25 Mehefin).
7 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio - Gohiriwyd
Gohiriwyd yr eitem hon
8 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Deintyddiaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.19
NDM8299 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘Deintyddiaeth’ a osodwyd ar 15 Chwefror 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl Plaid Cymru - Datganoli cyfiawnder a phlismona
Dechreuodd yr eitem am 17.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8300 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, dros chwarter canrif ers datganoli, fod Cymru yn parhau i fod yr unig wlad ddatganoledig heb ei system gyfreithiol a'i phwerau dros ei lluoedd heddlu, er nad oes sail resymol dros hyn.
2. Yn credu:
a) y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; a
b) y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl îs-bwynt 2 (a) a rhoi yn ei le:
y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol i sicrhau bod modd darparu cyfiawnder a phlismona yn well er budd pobl Cymru; a
bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi'n glir pam y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder yn llawn a sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder ac i baratoi ar ei gyfer.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
10 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.19
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.21
NDM8291 Joel James (Canol De Cymru)
Ail-bwrpasu cyffuriau i drin clefydau prin
Daeth y cyfarfod i ben am 18.39
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023